Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyfathrebu Digidol

Dydd Mawrth 29 Medi 2015 am 6.00pm

Cadeirydd: Russell George AC

Yr Aelodau a oedd yn bresennol:

Alun Ffred Jones (Arfon)

Keith Davies (Llanelli):

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

David Rees AC (Aberafan)

Janet Haworth AC (Gogledd Cymru)

Aled Roberts AC (Gogledd Cymru)

Cynrychiolwyr eraill

Rhodri Williams, Cyfarwyddwr, Cymru - Ofcom

Elinor Williams - Rheolwr Materion Rheoleiddio  - Ofcom

Nia Thomas - Ymgynghorydd Materion Rheoleiddio - Ofcom

Croesawodd Russell George AC, Cadeirydd y Grŵp, bawb i’r cyfarfod. Nododd y byddai Ofcom yn arwain y cyfarfod ac y byddent yn cyflwyno rhai o ganfyddiadau allweddol Adroddiad y Farchnad Gyfathrebu o ran Cymru a’r DU 2015.

Rhoddodd Rhodri Williams, Cyfarwyddwr, Ofcom Cymru, gyflwyniad ar ganfyddiadau allweddol yr adroddiad, a nododd fod Cymru yn arwain y ffordd o ran argaeledd band eang cyflym iawn – mae bron i bedwar o bob pump (79%) o leoedd yng Nghymru bellach yn gallu derbyn  band eang cyflym iawn ar gyflymder o 30Mbit/s, sef cynnydd o 24 pwynt canran ers 2014 (ar raddfa o  55%). Rhoddwyd y ffigurau diweddaraf o ran darpariaeth ffonau symudol 2G, 3G a 4G yng Nghymru i’r Grŵp hefyd, yn ogystal â rhai o’r tueddiadau diweddar o ran teledu a radio.

Trafododd Jane Rumble, y Cyfarwyddwr Gwybodaeth am y Farchnad, rai o’r penawdau yn y DU, gan eu cymharu a’u cyferbynnu â’r canfyddiadau ar gyfer Cymru. Pwysleisiodd y cynnydd dramatig ar draws y DU o ran perchnogaeth ffonau symudol a ffonau deallus a nododd fod nifer yr oriau a dreulir ar-lein bron wedi dyblu yn ystod y degawd diwethaf. Dywedodd wrth y Grŵp fod y post yn parhau i fod yn ffurf bwysig o gyfathrebu yng Nghymru a bod mwy o bobl yn anfon llythyrau yng Nghymru nag yng ngweddill y DU.

Yn dilyn y cyflwyniadau, gwahoddodd Russell George y rhai a oedd yn bresennol i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb. Cafwyd trafodaeth ar y prosiect Cyflymu Cymru a rhannwyd pryderon am ddiffyg gwasanaeth band eang mewn rhai rhannau gwledig o Gymru. Roedd gan y Grŵp ddiddordeb mewn gwybod y ffigurau diweddaraf am nifer y bobl sy’n manteisio ar fand eang cyflym iawn ledled Cymru a mynegodd un a oedd yn bresennol ei bryderon ynghylch a yw’r gwasanaeth ar gael ym mhob ysgol. Ychwanegodd Russell George AC y byddai Julie James AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg ac Ed Hunt, Cyfarwyddwr y Rhaglen Cyflymu Cymru ac Alwen Williams, Cyfarwyddwr BT yng Nghymru yn bresennol yng nghyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyfathrebu  Digidol ar 24 Tachwedd i drafod band eang mewn cyd-destun ehangach ac y dylai Aelodau godi eu pryderon yn uniongyrchol gyda hwy yn y cyfarfod nesaf.

Roedd y materion eraill a drafodwyd yn cynnwys argaeledd  4G yng Nghymru a’r problemau a gai busnesau yng nghefn gwlad Cymru, yn ogystal â materion mewn cysylltiad a diogelwch y rhyngrwyd. Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a oedd Ofcom wedi cael unrhyw gyfarwyddyd ar reoleiddio gan San Steffan, nododd Jane Rumble fod yr Adroddiad y Farchnad Gyfathrebu yn ddull cyfeirio ystadegol, yn hytrach nag yn bolisi. Pwysleisiwyd ymrwymiad Ofcom i’w waith ymchwil ar lythrennedd y cyfryngau yn ogystal â’i waith ar nodi rhwystrau sy’n bodoli o ran nifer y bobl sy’n manteisio ar wasanaethau cyfathrebu yn ein cymunedau.

Diolchodd Russell George AC i bawb am eu presenoldeb ac anogodd aelodau’r Grŵp i ddod i’r cyfarfod nesaf ar fand eang.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 7.30pm